Tuag at Uchelgais 2020: sgiliau, swyddi, twf

Mae rhagolygon y DU i’r dyfodol – ein llwybr allan o’r dirwasgiad, ein cyfleoedd am adferiad llwyddiannus a chynnydd economaidd cynaliadwy wedi hynny – yn ddibynnol ar y diwydiannau a’r swyddi yr ydym ni’n medru eu creu, ac ar gael y gweithlu medrus sydd ei hangen arnom i wneud y swyddi hynny’n dda.
Wrth i ni chwilio am adferiad wedi dirwasgiad, mae angen mwy o bobl mewn gwaith arnom a mwy o bobl mewn gwaith cynhyrchiol. Mae angen mwy o fusnesau, a mwy o fusnesau llwyddiannus, yn cynnig mwy o swyddi a swyddi gwell. Ac mae angen mwy o bobl a phoblsydd â sgiliau gwell i’n cael ni yno a’n cadw ni yno. Prin yw’r pethau sy’n fwy pwysig na’n harfogi ni â’r sgiliau sydd eu hangen, ar gyfer y swyddi sydd eu hangen, ar gyfer busnesau llwyddiannus yfory. Mae’r dirwasigad hefyd yn darparu cyfle heb ei ail i ddiwygio ein systemau cyflogaeth a sgiliau – i sicrhau eu bod yn medru cyflwyno ansawdd gwasanaethau fydd yn ein gwneud ni o safon fyd-eang.
Start a conversation
Log in or Register
To start or join a conversation, you need to be logged in

How do you feel about this content? Good, bad or indifferent, your opinion matters to us and can help us improve.
Be the first to have your say.