This site uses cookies to help make it more useful and reliable. Our cookies page explains what they are, which ones they use, and how you can manage and remove them.

Sub menu

Tuag at Uchelgais 2020: sgiliau, swyddi, twf


Tuag at Uchelgais 2020Mae rhagolygon y DU i’r dyfodol – ein llwybr allan o’r dirwasgiad, ein cyfleoedd am adferiad llwyddiannus a chynnydd economaidd cynaliadwy wedi hynny – yn ddibynnol ar y diwydiannau a’r swyddi yr ydym ni’n medru eu creu, ac ar gael y gweithlu medrus sydd ei hangen arnom i wneud y swyddi hynny’n dda.

Tuag at Uchelgais 2020: sgiliau, swyddi, twf (PDF, 4.0 Mb) 
Published December 2009

Wrth i ni chwilio am adferiad wedi dirwasgiad, mae angen mwy o bobl mewn gwaith arnom a mwy o bobl mewn gwaith cynhyrchiol. Mae angen mwy o fusnesau, a mwy o fusnesau llwyddiannus, yn cynnig mwy o swyddi a swyddi gwell. Ac mae angen mwy o bobl a phoblsydd â sgiliau gwell i’n cael ni yno a’n cadw ni yno. Prin yw’r pethau sy’n fwy pwysig na’n harfogi ni â’r sgiliau sydd eu hangen, ar gyfer y swyddi sydd eu hangen, ar gyfer busnesau llwyddiannus yfory. Mae’r dirwasigad hefyd yn darparu cyfle heb ei ail i ddiwygio ein systemau cyflogaeth a sgiliau – i sicrhau eu bod yn medru cyflwyno ansawdd gwasanaethau fydd yn ein gwneud ni o safon fyd-eang.

  • Print this page
  •